Mae cyn brif weinidog Libya, a gafodd ei orfodi o’i swydd, wedi rhoi ei gyfweliad cynta’ ers iddo adael y wlad.

Mae’n mynnu fod y modd y cafodd ei ddiswyddo yn annilys, ac mae’n cyhuddo ei wrthwynebwyr Islamaidd o weithio a chynllwynio yn ei erbyn.

Yn ei gyfweliad i orsaf deledu breifat Libya Ahrar, mae Ali Zidan yn dweud iddo gael ei gynghori gan ei gynghorwyr yn y senedd i adael y wlad, wedi iddo golli pleidlais i gadw’i swydd.

Mae hefyd yn dweud y byddai wedi gallu ennill y bleidlais allweddol i gadw ei swydd, pe na bai ei wrthwynebwyr Islamaidd wedi cam-gyfri’ yn fwriadol ddydd Mawrth diwetha’.

Ei gyn-weinidog amddiffyn, Abdullah al-Thinni, gafodd ei enwi’n brif weinidog dros-dro.