Mae cyfres o fomiau ceir wedi taro ardaloedd masnachol a bwyty ym mhrifddinas Irac, gan ladd beth bynnag 15 o bobol.

Fe ffrwydrodd bom car yn un o strydoedd prysur ardal al-Ameen yn ne-ddwyrain Baghdad, gan ladd pedwar o bobol ac anafu 13.

Funudau’n ddiweddarach, mae heddlu Baghdad yn dweud i ddyfais arall ffrwydro mewn car ger bwyty, gan ladd tri o bobol ac anafu chwech yn ardal Qahira o’r brifddinas.

Ac eto fyth, fe ffrwydrodd trydydd bom car mewn stryd fasnachol yng ngorllewin Baghdad, gan ladd pedwar o bobol ac anafu 14 o bobol eraill.

Fe ffrwydrodd pedwaredd bom car yn ardal Shula yng ngogledd orllewin Baghdad, gan ladd pedwar o bobol ac anafu naw.