Mae athletwyr paralympaidd Yr Wcrain wedi cynnal protest dawel wrth gamu i’r podiwm i gasglu eu medalau yn Sochi.

Fe benderfynodd y tim o’r Wcrain i guddio eu medalau, yn hytrach na pheidio mynd i’r Gemau o gwbwl. Ac wrth i Gemau’r Gaeaf dynnu tua’r terfyn yn Rwsia, roedden nhw’n ceisio tynnu sylw at y modd y mae y wlad honno yn cymryd drosodd rhannau o’u gwlad nhw.

Gan nad oes gan yr un athletwr yr hawl i gynnal protest wleidyddol ar y podiwm Olympaidd, fe benderfynodd tim Yr Wcrain orchuddio eu medalau arian tra’r oedd eu gwrthwynebwyr o Rwsia yn casglu eu medalau aur.

“Protest dawel ydi hi, yn sefyll dros heddwch i bawb,” meddai llefarydd ar ran Tim Yr Wcrain. “Roedd yn rhaid protestio oherwydd nad oes dim byd wedi newid yn Yr Wcrain.”