Mae dynes, 41, wedi marw ar ol cwympo o faes parcio yng nghanol dinas Caerdydd.

Fe gafodd Heddlu De Cymru  ac ambiwlans eu galw toc cyn 7yh nos Sadwrn, Mawrth 15, i’r maes parcio NCP yn Westgate Street.

Roedd y ddynes wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae Heddlu De Cymru yn cadarnhau eu bod nhw bellach yn ymchwilio i’r digwyddiad, ond dydyn nhw ddim yn credu fod amgylchiadau amheus.

Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.