Fe gafodd trywydd yr awyren Malaysia Airlines ei wyro’n fwriadol gan rywun, ac fe gafodd holl gysylltiadau’r awyren gyda’r ddaear eu datgysylltu.
Er hynny, fe fu’r awyren yn dal i hedfan am chwech awr wedi iddi ddiflannu’n llwyr oddi ar sgriniau radar y byd.
Dyna ddywedodd prif weinidog Malaysia wrth y wasg a’r cyfryngau nos Sadwrn, wrth gyfeirio at hynt yr awyren Boeing 737 sydd bellach ar goll ers dros wythnos.
Mae datganiad Najib Razak hefyd yn dweud y gallai llwybr yr awyren fod wedi gwyro mor bell a de Cefnfor India neu ogledd orllewin Kazakhstan, gan wneud y gwaith o ddod o hyd iddi yn anodd iawn.
Mae achubwyr o sawl gwlad wedi bod yn chwilio am yr awyren, ei chriw o 12 a’i 227 o deithwyr… ond heb ddod o hyd i ddim olion na chliwiau hyd yn hyn.
“Yn amlwg, mae’r gwaith o chwilio am awyren MH370 wedi newid tipyn nawr,” meddai Mr Najib mewn cynhadledd i’r wasg.
“Does dim byd fel hyn wedi digwydd o’r blaen, felly dyw’r byd ddim wedi bod mewn sefyllfa fel hyn o’r blaen.”