Mae dringwr 26 oed o Fae Colwyn wedi cael ei gludo i ysbyty ar ôl cwympo 70 troedfedd tra’n abseilio ar Fynydd Caergybi.

Fe fu’n rhaid ei achub gyda hofrennydd a winsh brynhawn dydd Sadwrn, Mawrth 15.

Mae llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau yn dweud fod y dyn yn lwcus i fod yn fyw. Mae wedi anafu ei figwrn, ei goes a’i asennau.

Fe gafodd ei drin gan barafeddyg cyn cael ei gludo i Ysbyty Gwynedd gan hofrennydd Y Fali.