Mae George Osborne wedi rhybuddio y bydd yn rhaid iddo wneud “penderfyniadau anodd” yng Nghyllideb yr wythnos nesa’, wrth iddo geisio cadw at ei gynlluniau i ail-adeiladu economi gwledydd Prydain.
Mewn erthygl ym mhapur newydd The Sun on Sunday heddiw, mae Canghellor y Trysorlys yn cadarnhau y bydd yn defnyddio ei ddatganiad yn Nhy’r Cyffredin ddydd Mercher i egluro sut a pham y bydd ei lywodraeth yn cwtogi ar fudd-daliadau.
A, hyd yn oed wedi pum mlynedd o doriadau llym i’r sector cyhoeddus, meddai, fe fydd yn rhaid torri mwy eleni a thu hwnt i’r etholiad cyffredinol nesa’ yn 2015 er mwyn rhoi trefn ar gyfrifon y ‘wlad’.
“Mae’r economi yn mynd y ffordd iawn,” meddai George Osborne, “ond does dim gwyro oddi ar y trywydd anodd hwn.
“Fe fydd fy Nghyllideb yr wythnos nesa’ yn egluro beth sy’n rhaid i ni ei wneud er mwyn ail-adeiladu economi gref.
“Allwn ni ddim rhoi’r gorau i geisio lleihau dyled Prydain. Hyd yn hyn, mae ein cynllun wedi dod a thipyn o sefydlogrwydd ac mae wedi gostwng cyfraddau morgais i deuluoedd, ac mae wedi gosod y sylfeini ar gyfer adfywiad economaidd.”
Ond…
Er hynny, mae’r ddyled yn parhau’n rhy uchel, meddai George Osborne – a dyna pam mae’n rhaid i weithwyr sector cyhoedus wynebu blwyddyn arall heb godiad cyflog.
Fe fydd cap ar wariant y llywodraeth ar fudd-daliadau o 2015 ymlaen.