Cymru 51–3 Yr Alban
Daeth Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2014 i ben yn gadarnhaol i Gymru gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn yr Alban yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn.
Dechreuodd y gêm yn ddigon diflas ond newidiodd pethau’n gyfan gwbl hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan dderbyniodd cefnwr yr ymwelwyr, Stuart Hogg, gerdyn coch am ergyd hwyr ar Dan Biggar. Hollol unochrog oedd hi wedi hynny wrth i Gymru groesi am saith cais i gyd.
Hanner Cyntaf
Cyfnewidiodd Greig Laidlaw a Biggar un gic gosb yr un mewn deg munud cyntaf digon cyfartal, ac yna wedi chwarter awr o chwarae, fe ddaeth y cais agoriadol.
Enillodd Gymru dir yn raddol yn dilyn lein 22 medr allan ac fe ddaeth y bêl i Liam Williams yn y diwedd ac fe blymiodd y cefnwr drosodd yn y gornel, 10-3 wedi trosiad Biggar.
Yna, daeth y digwyddiad mawr. Rhoddodd Hogg ei ysgwydd yn wyneb Biggar ym mhell wedi i faswr Cymru gicio’r bêl, ac er mai dim ond cerdyn melyn a ddangosodd Jérôme Garces i ddechrau, fe newidiodd y dyfarnwr ei feddwl ar ôl ei gweld hi eto a rhoi coch i gefnwr yr Alban.
Doedd dim gobaith i’r ymwelwyr wedi hynny ac fe ychwanegodd Cymru 17 pwynt arall cyn hanner amser, saith o droed Biggar a chais yr un i George North a Jamie Roberts.
Tiriodd North yn dilyn bylchiad cryf Liam Williams a dwylo da Mike Phillips, ac yna roedd Roberts wrth law i dirio eto yn dilyn bylchiad Jonathan Davies ar y chwith yn eiliadau olaf yr hanner. 27-3 ar yr egwyl.
Ail Hanner
Cafodd yr Alban ddigonedd o’r tir a’r meddiant yn yr ail hanner ond roedd Cymru’n edrych fel sgorio bob tro yr oeddynt yn cael gafael ar y bêl.
Croesodd North am ei ail ef a phedwerydd y tîm ym munud cyntaf yr ail hanner yn dilyn cic gosb gyflym Phillips, a gorffennodd Roberts wrthymosodiad da i groesi am ei ail yntau ychydig funudau’n ddiweddarach.
Daeth chweched cais y Cymry toc cyn yr awr wrth i Taulupe Faletau dirio yn y gornel yn dilyn dwylo da Alex Cuthbert yn gynharach yn y symudiad ac roedd hi’n 44-3 gyda dros chwarter y gêm i fynd.
Llwyddodd yr Albanwyr i fygu bygythiad y tîm cartref am gyfnodau hir wedi hynny ond roedd digon o amser ar ôl i’r eilyddion ymuno yn yr hwyl yn y munudau olaf.
Daeth seithfed cais Cymru, a’r olaf, bum munud o’r diwedd pan gasglodd Rhodri Williams gic ddeallus James Hook cyn plymio drosodd. 51-3 y sgôr terfynol yn dilyn trosiad Hook.
Mae’r canlyniad yn golygu fod Cymru’n gorffen y Bencampwriaeth yn y trydydd safle, oni bai fod Ffrainc yn cael buddugoliaeth yn erbyn Iwerddon yn y gêm olaf. Os fydd Iwerddon yn ennill y gêm honno, hwy fydd y pencampwyr.
.
Cymru
Ceisiau: Liam Williams 16’, George North 34’, 41’, Jamie Roberts 40’, 48’, Taulupe Faletau 53’, Rhodri Willuams 74’
Trosiadau: Dan Biggar 17’, 35’, 40’, 49’, James Hook 75’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 10’, 24’
.
Yr Alban
Cic Gosb: Greig Laidlaw 4’
Cerdyn Coch: Stuart Hogg 23’