Fred Evans (o wefan GB Boxing)
Mae paffiwr o Gymru a enillodd fedal arian yn y Gemau Olympaidd, wedi cael ei arestio a’i gyhuddo o ddau achos o ymosod yn Birmingham.
Fe gafodd Fred Evans ei arestio ar Chwefror 23, ac fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu’r West Midlands fod dyn 23 oed o Laneirwg, Caerdydd, wedi’i gludo i’r ddalfa ar y dyddiad hwnnw a’i gyhuddo’n ddiweddarach.
Fe grëodd Fred Evans hanes yng ngemau Llundain ddwy flynedd yn ôl am fod y Cymro cynta’ ers 1972 i ennill medal am baffio.