Mae wedi bod yn llais cyfarwydd i wylwyr a gwrandawyr rygbi Cymru ers tri degawd a hanner, ond brynhawn heddiw yn Stadiwm y Mileniwm, fe fydd Huw Llywelyn Davies yn sylwebu ar ei gêm rygbi ryngwladol olaf un.
Yn y cyfnod hwnnw, mae’r sylwebydd wedi gweld y da a’r drwg ym myd rygbi Cymru, gan ddiddanu cefnogwyr am flynyddoedd gyda’i ffeithiau difyr wrth ddilyn helyntion y tim ar y cae.
Ac mae’n cyfadde’ ei fod yn deimlad rhyfedd iawn wrth iddo baratoi am un gêm ola’ wrth y microffon wrth i Gymru baratoi i gwblhau eu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad gartre’ yn Stadiwm y Mileniwm – eu canfed gêm yno.
“Mae’n rhyfedd iawn, o feddwl taw hon fydd y gêm iolaf ar ôl 35 o flynyddoedd – tua 300 o gemau rhyngwladol gyda Chymru, a rhyw 60 gêm ryngwladol yn ymwneud â gwledydd eraill,” meddai Huw Eic wrth golwg360.
“Mae’n drist, mewn ffordd, fod e’n dod i ben, ond wrth edrych nôl, rwy’n teimlo’n ffodus o gael y cyfle i wneud e am gymaint o amser, ac wedyn cael y cyfle i deithio’r byd a chwrdd â chymaint o bobol.”
Hir yw pob ymaros
Ar ôl cyfnod mor hir wrth y meicroffon, hawdd yw dychmygu fod Huw Llywelyn Davies wedi gweld digon o uchafbwyntiau ers dechrau ar y gwaith yn 1979.
Ond yr hyn sydd wedi codi ei galon yw gweld tim Cymru y degawd diwetha’ yn llwyddo i efelychu llwyddo i efelychu campau a llwyddiannau tim diwedd y 1970au.
“Yr uchafbwynt oedd ennill y Gamp Lawn yn 2005, am y rheswm ein bod ni wedi aros cyhyd amdano,” meddai Huw Llywelyn Davies.
“Fe enillodd Gymru dair Camp Lawn yn y 1970au, yr olaf o’r tair yn 1978, felly roedd fy amseru i’n berffaith!
“Ac wedyn, gorfod aros tan 2005… chwe blynedd ar hygain, cyn i mi gael sylwebu ar Gamp Lawn arall i Gymru. Felly roedd hynny’n amlwg yn dipyn o uchafbwynt.”
Newid yn y swydd
Mae rygbi, fel gêm, wedi newid yn sylweddol ers i Huw Llywelyn Davies ddechrau ar y gwaith o sylwebu. Mae’r gamp wedi troi’n broffesiynol, fe ddaeth technoleg i helpu dyfarnwyr, ac fe aeth y gêm i bellafoedd byd hefyd.
Dyna pam mae Huw Eic yn dweud i’w waith yntau, fel sylwebydd, orfod newid hefyd.
“Un o’r pethe mwya’ sydd wedi digwydd oedd pan wnes i ddechre, prin iawn oedd y gemau byw… uchafbwyntiau oedd y rhaglenni. Felly roedd angen bod yn ymwybodol fod pobol yn gorfod golygu ffilm.
“Mae cymaint mwy o gamerâu nawr, mae pethe bach fel ein bod ni’n gallu clywed beth yw penderfyniad y dyfarnwr nawr… roeddech chi’n arfer gorfod dehongli hynny eich hunan.
“Fel mae’r gêm wedi newid, mae rôl y sylwebydd wedi newid,” meddai. “Erbyn hyn, mae’r bêl yn cael ei chadw gan y blaenwyr am gyfnodau hir.
“Felly mae’r ail lais (y sylwebydd arbenigol) yn dod mewn cymaint mwy yn ystod y gêm nag oedd e cynt, achos fod y bêl yn fyw am gymaint o amser mae ishe llais arall i dorri ar yr undonedd.”
Beth ’di bod i Siapan…
Yn ysgod ei yrfa gyffrous, mae Huw Llywelyn Davies wedi cael y cyfle i weld Cymru’n chwarae ym mhob cwr o’r byd, gan sylwebu ar bump Cwpan y Byd a phump o deithiau’r Llewod.
Ond un lle sydd ddim wedi cael ei groesi oddi ar ei restr yw cornel falch o’r Dwyrain Pell sydd wedi bod yn gartre’ i gyn-asgellwr Cymru, Shane Williams, dros y blynyddoedd diwetha’. Siapan.
“Dw i wedi bod yn ffodus iawn yn yr hyn dw i wedi’i gael,” meddai Huw Llywelyn Davies, “ond un wlad dw i ddim wedi bod iddi, a byddwn i wedi hoffi mynd, yw Siapan.
“Fe ddes i o fewn diwrnod i fynd yno yn 2001, ond ar yr eiliad ola’ fe gawson ni alwad wrth Gareth Davies, pennaeth chwaraeon S4C ar y pryd, yn dweud ei fod e’n eitha’ hyderus ein bod ni am gael hawliau reit ar gyfer taith y Llewod i Awstralia.
“Felly, yn lle mynd i Siapan am bedair wythnos, fe es i i Awstralia am ryw wyth neu naw wythnos.”
A’r dyfodol?
Fe fydd Huw Llywelyn Davies yn parhau i sylwebu ar gemau Pro12 i S4C, yn ogystal â chyfrannu at waith Adran Chwaraeon BBC Cymru.