Ulster 26–13 Scarlets

Colli fu hanes y Scarlets wrth herio Ulster yn Ravenhill yn y RaboDirect Pro12 nos Wener.

Roedd y gêm fwy neu lai drosodd yn dilyn tri chais hanner cyntaf i’r Gwyddelod ac fe sicrhaodd y tîm cartref bwynt bonws gyda phedwerydd cais yn yr eiliadau olaf y gêm.

Yn dilyn chwarter awr agoriadol di sgôr fe newidiodd y gêm gyda dau gais mewn tri munud i Ulster.

Croesodd Paddy Jackson i ddechrau cyn i Tommy Bowe ychwanegu’r ail, ac roedd y tîm cartref bedwar pwynt ar ddeg ar y blaen wedi dim ond deunaw munud yn dilyn dau drosiad Ruan Pienaar.

Cafodd John Barclay bwyntiau cyntaf y Scarlets wedi hynny ond buan iawn yr oedd Ulster wedi tirio trydydd. Jackson oedd y sgoriwr eto ac roedd deunaw pwynt rhwng y ddau dîm yn dilyn trydydd trosiad llwyddiannus Pienaar.

Rhoddodd cais Gareth Davies lygedyn o obaith i Fois y Sosban cyn yr egwyl ond methodd y Cymry ag ychwanegu at eu cyfanswm wedi’r egwyl oni bai am dri phwynt o droed Olly Barkley.

Yna, gyda symudiad olaf y gêm, fe goronodd Ulster y fuddugoliaeth gyda phedwerydd cais pan sicrhaodd Tom Court y pwynt bonws.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Scarlets yn chweched yn nhabl y Pro12.

.

Ulster

Ceisiau: Paddy Jackson 16’, 34’, Tommy Bowe 18’, Tom Court 80’

Trosiadau: Ruan Pienaar 16’, 18’, 35’

.

Scarlets

Cais: Gareth Davies 36’

Trosiad: John Barclay 33’

Ciciau Cosb: John Barclay 37’, Olly Barkley 62’