Fe fydd y Scarlets yn herio Ulster yn Ravnehill heno yn y gobaith o gyrraedd y gemau ail gyfle.

Mae’r prop Samson Lee a’r bachwr Emyr Phillips wedi cael eu rhyddhau gan Gymru ac yn eistedd ar y fainc i’r rhanbarth o’r gorllewin ar gyfer yr unig gêm yn y Pro12 heno.  Wedi curo Ulster unwaith yn barod y tymor hwn cyn belled, mi fydd y Scarlets am gipio’r ddwbl yn Ravenhill.

‘‘Bydd rhaid ailadrodd y perfformiad diwethaf yn erbyn Ulster gan sicrhau canlyniad tebyg.  Mae o hyd yn galed i gipio’r fuddugoliaeth yno,’’ meddai hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby.

Tri newid sydd i’r tîm a gurodd Munster yn gynharach yn y mis, gyda’r canolwr Gareth Maule yn dechrau ynghyd â Kirby Myhill a Jacobie Adriaanse yn dychwelyd i’r rheng flaen.  Fe fydd hi’n noson hanesyddol i’r ail reng wrth i George Earle a Johan Snyman gwneud ei hanner canfed ymddangosiad dros y rhanbarth.

Deg pwynt yn unig sydd yn gwahanu’r Scarlets a’r Gweilch, sydd yn y pedwerydd safle ar hyn o bryd, wedi cipio 13 pwynt allan o 15 yn y tair gêm diwethaf bydd y Scarlets am gau’r bwlch rhyw ychydig gydag buddugoliaeth heno.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Jordan Williams, Kristian Phillips, Gareth Maule, Olly Barkley, Frazier Climo, Aled Thomas a Gareth Davies.

Blaenwyr – Phil John, Kirby Myhill, Jacobie Adriaanse, George Earle, Johan Snyman, Josh Turnbull, John Barclay a Rob McCusker.

Eilyddion – Emyr Phillips, Rob Evans, Samson Lee, Richard Kelly, Sione Timani, Aled Davies, Josh Lewis a Adam Warren.