Mae Bellamy ar gael eto wedi cyfnod wedi ei wahardd
Fe fydd y naw gêm nesaf yn dyngedfennol i ddyfodol Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair.
Wedi curo Fulham 3-1 bydd y rheolwr Solskjaer a’i dîm wedi magu hyder ar gyfer y daith i Goodison.
Mi fydd hi’n her i Gaerdydd sydd heb rwydo gôl yn wyth o’u 10 gêm oddi cartref y tymor hwn, a dim ond wedi ennill un gêm o 14 oddi cartref.
Yn ôl Solskjaer mae angen o leiaf pedair buddugoliaeth ar Gaerdydd i ddal eu tir yn yr Uwch Gynghrair.
Ar ôl cael ei wahardd am dair gêm fe fydd Craig Bellamy yn benderfynol o fod yng nghynlluniau Solskjaer ar gyfer yr ornest.