Y penwythnos yma fe fydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dirwyn i ben gyda Chymru’n herio’r Alban yn Stadiwm y Mileniwm.
Ac mae criw’r pod rygbi – Rhys Jones, Owain Gruffudd ac Illtud Dafydd – yn ôl unwaith eto i drafod hynt a helynt y tîm cenedlaethol ar ôl i’r bencampwriaeth lithro o’u gafael yn dilyn y golled i Loegr y penwythnos diwethaf.
Yn ogystal â’r canlyniad siomedig hwnnw mae’r tri yn trafod rhai o newidiadau Warren Gatland ar gyfer her yr Alban.
Ai Dan Biggar yw’r dewis gorau yng nghrys rhif 10 Cymru? Yw gyrfaoedd rhyngwladol Gethin Jenkins ac Adam Jones yn dirwyn i ben?
Hynny a mwy – gan gynnwys cipolwg sydyn ar gêm arall sy’n digwydd yn y brifddinas – ar y pod rygbi heddiw.