Cynulliad Gogledd Iwerddon
Mae Llywodraeth Gogledd Iwerddon wedi dweud na ddylid lleihau maint Cynulliad Gogledd Iwerddon yn ormodol.
Bwriad y llywodraeth yw lleihau nifer yr aelodau sy’n gwasanaethu’r Cynulliad Deddfwriaethol.
Eu gobaith yw torri’r nifer o chwe aelod i bump ym mhob rhanbarth.
Dywedodd Gweinidog Gogledd Iwerddon yn Llywodraeth Prydain, Andrew Robathan y byddai lleiafrifoedd yn parhau i gael eu cynrychioli’n llawn o dan y cynllun newydd.
Penderfyniad y Cynulliad llawn fydd derbyn neu wrthod y cynnig.
Dywedodd Andrew Robathan mewn cyfarfod sy’n trafod y Mesur y gallai’r Cynulliad “ddeddfu i leihau ei faint yn sylweddol”.
Ond mae Tŷ’r Arglwyddi wedi mynegi pryder na fyddai’r Cynulliad yn cael ei amddiffyn yn llawn pe bai’n cael ei gwtogi.
Dywedodd: “Mae nifer yng Ngogledd Iwerddon o’r farn fod 108 o aelodau yn y Cynulliad yn ormod.
“Ond nid bwriad y Llywodraeth yw y dylai leihau’n sylweddol.
“Pan gafodd ei sefydlu, y bwriad oedd y dylai fod yn gorff cynhwysol ar y cyfan a’i fod yn hanfodol i drefniant iachus cytundeb Gogledd Iwerddon.”
Ychwanegodd fod angen ystyried lleihau’r nifer mewn cyfnod pan fo’r sector cyhoeddus cyfan dan bwysau ariannol.