Gwyl Glastonbury
Mae dyfodol Gŵyl Glastonbury yn ddiogel am ddegawd arall ar ôl i’r trefnwyr dderbyn trwydded newydd.

Hwn yw’r ail dro i’r drwydded gael ei rhoi heb fod angen cynnal gwrandawiad cyhoeddus i wneud y penderfyniad.

Yn y gorffennol, mae Cyngor Bwrdeistref Mendip wedi mynnu cynnal gwrandawiadau rhag ofn bod trigolion lleol yn gwrthwynebu’r cynlluniau oherwydd y sŵn a diogelwch.

Ond wnaeth neb wrthwynebu’r cynlluniau y tro hwn.

Dywedodd y trefnwyr bod angen iddyn nhw benodi rhagor o staff, swyddogion diogelwch, pobol i gasglu sbwriel, stiwardiaid a gwirfoddolwyr diogelwch.

Eisoes, mae rhai o enwau mwyaf y byd cerddoriaeth wedi cadarnhau y byddan nhw’n perfformio yng Ngwlad yr Haf ar Fehefin 25.

Mae’r prif artistiaid yn cynnwys Dolly Parton, Blondie a Lily Allen.

Dywedodd prif drefnydd yr ŵyl, Emily Eavis: “Mae hyn yn newyddion gwych.

“Mae’n wych cael cynllun a fydd yn helpu popeth ar Fferm Worthy i symud ymlaen.”

Ychwanegodd Eavis, sy’n ferch i sylfaenydd yr ŵyl, Michael Eavis, ei bod hi am ddiolch i’r holl gyfranwyr dros 44 o flynyddoedd.

Mae disgwyl i 135,000 o docynnau gael eu gwerthu ar gyfer y penwythnos eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y bydden nhw’n parhau i graffu ar drefniant yr ŵyl dros y degawd nesaf.