Mae ymchwiliad i lofruddiaeth milwr ar y gweill ar ôl i’w gorff gael ei ddarganfod mewn barics yn Swydd Amwythig.

Meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn fod y dyn 32 mlwydd oed yn aelod o’r Gatrawd Frenhinol Wyddelig.

Dywedodd Heddlu Gorllewin Mercia bod ymchwiliad i lofruddiaeth wedi dechrau ar ôl i’r milwr farw ym Marics Clive yn Tern Hill, Swydd Amwythig, tua 9:00 bore dydd Sadwrn.

Mae dyn 23 mlwydd oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Dywedodd yr heddlu bod crwner Swydd Amwythig wedi cael ei hysbysu.