Nigel Evans
Bydd cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru, Adam Price, yn rhoi tystiolaeth yn achos llys Nigel Evans.

Mae Nigel Evans, 56 oed, sy’n enedigol o Abertawe ac yn Aelod Seneddol Ribble Valley yn Sir Gaerhirfryn, yn wynebu naw cyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn saith o ddynion sy’n dyddio o  2002 hyd at 1 Ebrill y llynedd.

Mae’n gwadu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus, chwe chyhuddoad o ymosod yn rhywiol ac un cyhuddiad o dreisio.

Cafodd Adam Price ei restru ymhlith tystion yr erlyniad yn yr achos yn erbyn cyn ddirprwy lefarydd Ty’r Cyffredin heddiw.

ASau eraill yn dystion

Cyn i’r rheithgor o saith dyn a phump o ferched dyngu llw yn Llys y Goron Preston, gofynnwyd iddyn nhw a oedd ganddynt unrhyw gysylltiad personol gyda thystion ar ran yr erlyniad neu gyda Nigel Evans.

Mae tystion eraill ar ran yr erlyniad yn cynnwys Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, a’r Aelodau Seneddol Sarah Wollaston, Michael Fabricant, Patrick McLoughlin, Alexander John Randall, Conor Burns a Tom Blenkinsopp.

Bydd y cyn Aelod Seneddol, Lembit Opik, hefyd yn rhoi tystiolaeth ar ran y Goron.

Ymddiswyddodd Nigel Evans o fod yn ddirprwy lefarydd Ty’r Cyffredin ôl iddo gael ei gyhuddo’r llynedd.

Mae disgwyl i’r achos barhau am bedair neu bum wythnos. Bydd yr erlyniad yn cyflwyno’u hachos i’r rheithgor am 2 y prynhawn ma.