Mae dau blismon gyda Heddlu De Cymru wedi cael eu diswyddo am y modd yr oedden nhw wedi delio gyda honiadau o ymosod yn rhywiol yn erbyn plismon arall.
Cafwyd y Ditectif Arolygydd Phillip Camm a’r ditectif sarjant Richard Jones yn euog o gamymddygiad difrifol yn dilyn gwrandawiad disgyblaeth ac ymchwiliad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).
Ym mis Awst y llynedd cafodd y cyn dditectif Jeffrey Davies ei garcharu am dair blynedd yn Llys y Goron Abertawe am ddefnyddio ei rôl fel swyddog cyswllt teulu i ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes tra roedd ar ddyletswydd yn 2010. Roedd y ddwy ddynes wedi dioddef trais yn y cartref.
Y ditectif sarjant Richard Jones oedd rheolwr Davies, a’r Ditectif Arolygydd Phillip Camm oedd ei arolygydd yn uned CID yn Aberdâr.
Roedd ymchwiliad yr IPCC wedi nodi cyfres o fethiannau gan gynnwys peidio a chyfeirio honiadau yn erbyn Davies i adran safonau proffesiynol yr heddlu; methu a chynnal ymchwiliad effeithlon; trin yr honiad fel cwyn maleisus; anfon e-byst amhriodol; a dweud celwydd yn ystod cyfweliadau gyda’r IPCC.
‘Siom’
Mewn datganiad dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Peter Vaughan bod y ddau blismon wedi bod yn ymwybodol o’r hyn a wnaeth Davies “ond wedi methu a gweithredu yn y modd priodol.”
Ychwanegodd: “Mae Heddlu De Cymru mewn sioc ac yn teimlo ein bod ni wedi cael ein siomi gan ymddygiad y ddau swyddog. Does dim dwywaith bod y ddwy ddynes a gafodd eu heffeithio yn haeddu ymddiheuriad diffuant gan fod ymddygiad y ddau swyddog ymhell o gyrraedd y safonau rwy’n ei ddisgwyl gan Heddlu De Cymru.”