Jonathan Edwards
Roedd bron i 100 o bobol mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghwmgwili, Caerfyrddin neithiwr i wrthwynebu cais cynllunio i agor safle trin sbwriel yno.
Cwmni Clean Power Properties sydd y tu ôl i’r cais, ac maen nhw’n bwriadu adeiladu gorsaf enfawr yn y pentref a fyddai’n defnyddio gwres uchel o tua 500˚c i droi tunelli o sbwriel yn nwy adnewyddadwy.
Roedd gwrthwynebwyr yn pryderu am effaith y datblygiad ar iechyd, yr arogl a fyddai’n cael ei greu a’r effaith ar brisiau tai yn yr ardal.
Ac mae Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn honni fod Cyngor Sir Gâr wedi celu manylion ynglŷn â’r cais oddi wrth gymuned Dyffryn Aman yn fwriadol, er mwyn ceisio symud ymlaen gyda’r cais “yn dawel”.
‘Celu gwybodaeth yn fwriadol’
“Mae’r gymuned yn becso’n fawr iawn ac rydw i innau’n ddig iawn gyda Chyngor Sir Gâr am beidio datgelu’r holl wybodaeth i’r gymuned,” meddai Jonathan Edwards a fu yn y cyfarfod ar ran Plaid Cymru.
“Cafodd hysbyseb am y datblygiad ei roi yn y Llanelli Star, ac fe gafodd y wybodaeth ei basio mlaen i’r AS Nia Griffith ar ran Llanelli, ond does neb o Ddyffryn Aman yn darllen y Llanelli Star.
“Mae’n gwneud i mi feddwl fod y cyngor wedi gwneud hyn yn fwriadol.
“Beth mae pobol yn ei bryderu am yw’r effaith ar eu hiechyd, gan y bydd diocsyns yn cael eu rhyddhau hefo datblygiad o’r fath. Yn ogystal, mae pryder am yr arogl fydd yn cael ei greu a’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar brisiau tai yn yr ardal.
“Mae’n debyg y bydd 120 o loriau yn pasio yn ôl ac ymlaen o’r ffatri bob dydd hefyd, a hynny ar ffyrdd bach.”
Dywedodd Jonathan Edwards ei fod yn bwriadu ysgrifennu at Gyngor Sir Gar a chwmni Clean Power Properties, er mwyn sicrhau bod cyfarfod cyhoeddus yn cael ei drefnu i roi gwybod i’r gymuned gyfan am fanylion y cais cynllunio.