Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am wybodaeth a thystion wedi i berson farw mewn damwain ym Modelwyddan fore Sadwrn.

Cafodd yr heddlu eu galw am 7.48 bore dydd Sadwrn i Lon Sarn ym Modelwyddan yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cerddwr a bws gwasanaeth cyhoeddus.

Cafodd y cerddwr anafiadau difrifol a bu farw yn y fan a’r lle.

Meddai’r heddlu bod nifer bychan o deithwyr ar y bws ar y pryd ac aethpwyd ag un ohonynt i Ysbyty Glan Clwyd gyda man anafiadau.

Roedd y ffordd ar gau am gyfnod  ac roedd dargyfeiriadau mewn lle.

Dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn ymchwilio i’r gwrthdrawiad a hoffwn annog unrhyw un a oedd yn dyst i’r gwrthdrawiad, neu a oedd yn teithio ar hyd y ffordd ar ôl 7.30 fore Sadwrn, i gysylltu â swyddogion yn Uned Plismona’r Ffyrdd ar 101.”