Max Clifford
Fe fydd yr achos yn erbyn yr asiant Max Cliffordd, sydd wedi’i gyhuddo o gyfres o ymosodiadau anweddus honedig, yn dechrau heddiw.

Mae disgwyl i’r rheithgor dyngu llw yn Llys y Goron Southwark heddiw wrth i’r erlyniad gyflwyno’u tystiolaeth.

Mae Clifford, sy’n asiant i nifer o sêr y byd teledu, wedi gwadu 11 cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar  saith o ddioddefwyr honedig, oedd rhwng 14 a 19 oed, rhwng 1966 a 1984.