George Osborne
Mae’r Canghellor George Osborne wedi dweud y bydd ei Gyllideb fis nesaf yn adlewyrchu’r problemau sy’n dal i wynebu Prydain, gan rybuddio nad yw’r adferiad economaidd yn sefydlog o hyd.
Daeth ei sylwadau wrth iddo annerch arweinwyr busnes yn Hong Kong cyn iddo gyfarfod a gweinidogion cyllid y G20 yn Awstralia dros y penwythnos.
Dywedodd Osborne y byddai’n “gamgymeriad mawr” i gymryd yn ganiataol bod y gwaith o adfer economi’r DU ar ben, a hynny er gwaetha’r twf diweddar.