Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi anfon tîm o’r Gelli Gandryll i helpu dioddefwyr yn Nyffryn Tafwys.

At hynny, mae’r gwasanaeth hefyd wedi anfon offer pwmpio arbenigol i gefnogi ymdrechion achub yn Hampshire.

“Rydyn ni’n falch iawn o allu cynnig ein cefnogaeth a’n cymorth i wasanaethau tân ac achub eraill yng ngwledydd Prydain,” meddai llefarydd ar ran Canolbarth a Gorllewin Cymru.

“Mae ganddon ni offer arbenigol a staff arbenigol sy’n gallu ymateb i ddigwyddiadau mawr yng Nghymru, yn ogystal â gwledydd Prydain.

“Ar hyn o bryd, mae’r angen yn Lloegr yn fwy na’r angen yng Nghymru, ac rydyn ni’n falch o allu rhoi hwb i’r ymdrech.”