Mae’r heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad yn ardal Broadlands.

Fe ddigwyddodd rywbryd rhwng 7yb a  5.10yp ddydd Mercher, Chwefror 12, tra’r oedd preswylwyr y ty yn y gwaith.

Fe aeth y lleidr i mewn i’r ty trwy orfodi drysau patio yn agored, cyn dwyn gemwaith drud.

Mae’r heddlu’n chwilio am ddyn croenwyn yn ei 40au, yn gyrru car Ford Fiesta neu Renault Clio lliw arian. Roedd yn siarad gydag acen leol ac yn gwisgo dillad llwyd.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y drosedd gysylltu â Heddlu De Cymru ar y rhif 101, neu ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.