Enrico Letta
Mae arlywydd yr Eidal wedi derbyn ymddiswyddiad y Prif Weinidog Enrico Letta, wedi iddo yntau gael y sac gan ei blaid ei hun.

Mae’r Arlywydd, Giorgio Napolitano, wedi dweud y bydd yn dechrau trafod gyda gwleidyddion yn hwyrach heddiw.

Y bwriad ydi dod o greu llywodraeth newydd, a rhoi ar waith diwygiadau gwleidyddol ac economaidd newydd.

Mae disgwyl i’r trafodaethau bara’ trwy ddydd Sadwrn hefyd. Y gred ydi y bydd Mr Napolitano yn gofyn i faer dinas Florence, Matteo Renzi, i lunio llywodraeth.