Mae un o gomisiynau’r Cenhedloedd Unedig wedi canfod troseddau yn erbyn y ddynoliaeth yng Ngogledd Corea.

Mae’r comisiwn wedi bod yn ymchwilio ers blwyddyn, ac yn adrodd ei fod wedi canfod tystiolaeth o “droseddau’n erbyn poblogaethau sy’n llwgu” a “diddymu pobol”, yn ogystal ag ymgyrch o herwgipio unigolion yn Ne Corea a Japan.

Mae disgwyl i adroddiad y comisiwn gael ei gyhoeddi ddydd Llun.

Mae amlinelliad o’r adroddiad wedi’i gyhoeddi i’r wasg a’r cyfryngau gan unigolyn sydd yn dymuno’n aros yn ddienw.