Mae traeth yn Norfolk wedi ei gau i’r cyhoedd, wedi i aelod o’r cyhoedd ddod o hyd i fom heb ffrwydro ar y tywod.

Fe gafodd Heddlu Norfolk eu galw i’r traeth yn Hemsby, wyth milltir i’r gogledd o Great Yarmouth, tua 8.15yb ddydd Sadwrn.

Mae un ardal o’r traeth bellach ar gau i’r cyhoedd, tua 500 llath o adeilad y bad achub.

“Mae swyddogion yr Uned Ddifa Bomiau (EOD) wedi cael eu galw, ac fe fyddwn ni’n cydweithio gyda nhw ar yr achos hwn,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Norfolk..