Mae heddlu Gogledd Iwerddon wedi enwi’r merch fach tri mis oed a fu farw wedi i’w thad gael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifiol iddi.

Fe fydd archwiliad post-mortem yn ceisio ateb sut y bu Caragh Walsh o Twinbrook yng ngorllewin Belffast farw.

Fe gafodd y babi ei chludo i Ysbyty’r Royal Victoria ym Melffast nos Fercher, Chwefror 5, ac fe fu mewn cyflwr difrifol am ddyddiau. Nos Wener, fe gyhoeddodd Heddlu Gogledd Iwerddon fod Caragh Walsh wedi marw.

Fe ymddangosodd ei thad 23 mlwydd oed gerbron barnwr yn Llys Ynadon Craigavon fore Gwener. Dyw e ddim wedi cael ei enw, am resymau cyfreithiol.