Mae athrawes o Belffast a gafodd ei gorfodi i roi’r gorau i’w gwaith oherwydd bygythiadau gwleidyddol a chrefyddol, wedi diolch i’w disgyblion am eu cefnogaeth.
Fe gafodd Catherine Seeley, 25, ei bygwth oherwydd ei bod hi hefyd yn gynghorydd Sinn Fein. Fe gafodd graffiti bygythiol ei baentio yn ardal ei hysgol yng ngogledd Belffast, ac fe gafodd pethau mawr eu dweud ar y we.
“Dw i eisiau cymryd y cyfle hwn i anfon neges o ddiolch i ddisgyblion y Boys’ Model School, a fu mor gefnogol i mi,” meddai Catherine Seeley.
“Maen nhw’n arddangos y gwerthoedd hynny ddylai fod yn rhan o unrhyw system addysg, ond o gymdeithas hefyd. Maen nhw’n fy ysbrydoli i ar gyfer y dyfodol.”
Roedd hi’n annerch cyfarfod Sinn Fein yn Wexford.