Y gwyntoedd cryfion sydd i gyfri’ pam mae mwy na 300 o gartrefi yn ne a de-orllewin Cymru heb gyflenwad trydan heno.
Mae’r tai sydd wedi’u heffeithio yn ardaloedd Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin, yn sir Torfaen, ac ym mhen draw Sir Benfro.
Mae cwmni trydan Western Power Distribution yn dweud fod gweithwyr allan yn gwneud eu gorau i gael y cyflenwad yn ôl i gymunedau ar hyd a lled y de a’r de-orllewin.
Yn y gogledd, dyw cwmni ynni Scottish Power ddim wedi derbyn yr un adroddiad am broblemau.
Gwyntoedd yn creu problemau eraill hefyd
Mae’r gwyntoedd – sy’n hyrddio ar gyflymder o hyd at 70 milltir yr awr heddiw – wedi rhwystro badau cwmni Irish Ferries rhag croesi o Gaergybi i Ddulyn, a hynny ar benwythnos gêm rygbi Cymru ac Iwerddon.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn addo mwy o wyntoedd cryfion o gyfeiriad y de, i daro Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Sir Gâr, Nedd Port Talbot, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg.Mae disgwyl gwyntoedd cryfion hefyd yng Ngheredigion, Sir Fôn a Gwynedd.