Mae priffordd yr A487 trwy bentre’ Solfach yn Sir Benfro newydd ail-agor am 11.15 fore heddiw, a hynny ar ôl bod ynghau am gyfnod byr oherwydd fod llechi wedi llithro i’r ffordd oddi ar do tai cyfagos.
Ond nid dyna’r unig le yn y sir i gael ei daro gan effeithiau’r gwyntoedd a’r glaw trwm dros yr oriau diwetha’.
Mae’r ffordd ger Pont Caeriw hefyd wedi cau, oherwydd fod coeden wedi syrthio ar draws y lôn.
Ac newydd agor am 11 heddiw y mae’r A40 ger San Clêr, yn dilyn damwain ffordd rhwng nifer o gerbydau.
Mae’r gwasanaethau brys yn gofyn i bobol gymryd gofal wrth deithio – a dim ond i fentro ma’s os oes gwir angen gwneud hynny.
Ofni’r gwaetha’…
Mae’r gwasanaethau brys hefyd yn rhybuddio fod coeden wedi cwympo ger tafarn y Red Lion ym Mhenalun ger Dinbych-y-Pysgod.
Mae adran briffyrdd Cyngor Sir Benfro yn barod i ymateb os y bydd llifogydd yn taro eto yn Amroth ac yn Niwgwl. Ar hyn o bryd, mae’r ffyrdd glan y môr yn parhau ar agor yn y ddau bentre’, ond fe allai hynny newid yn ystod y llanw uchel amser cinio heddiw.
Mae uchder y tonnau oddi ar Drwyn St Anne wedi codi i 9.1m, ac maen nhw wedi bod yn codi un fetr yr awr ers 10 o’r gloch fore Sadwrn. Mae’r tonnau ar y lan tua hanner hwnnw.
Dim fferis o Abergwaun
Ac ar ôl yr holl drafferthion ar y ffyrdd, dyw hi ddim yn syndod fod pob un o fferis cwmni Stena o Abergwaun draw i Rosslare yn Iwerddon hefyd wedi ei chanslo heddiw.