Mae cyfryngau’r wladwriaeth yn Nhwrci yn adrodd fod heddlu gwrth-derfysgaeth yn holi dyn o’r Wcrain ar amheuaeth o geisio heijacio awyren a oedd ar ei ffordd i Rwsia.

Roedd yr awyren ar ei ffordd i ddinas Sochi, lle mae Gemau Olympaidd y Gaeaf yn cael eu cynnal y mis hwn.

Yn ôl yr orsaf deledu TRT, mae’r heddlu wrthi’n ceisio penderfynu p’un ai ydi’r dyn yn gysylltiedig ag unrhyw grwpiau terfysgol. Mae ei enw, Artem Hozlov, wedi’i ryddhau ar y cyfryngau.

Yn ôl adroddiadau swyddogol, roedd Artem Hozlov yn cario bom ac wedi ceisio newid llwybr taith yr awyren Pegasus Airlines. Ond fe lwyddodd y criw i’w dwyllo, ac fe laniwyd yn Istanbul. Yno, fe ddaeth heddlu diogelwch ar fwrdd yr awyren a’i arestio.