Mae lori, a oedd yn teithio ar ochr anghywir y ffordd, wedi mynd ben-ben â bws yn llawn teithwyr yn yr Ariannin – ac mae beth bynnag 18 o bobol wedi’u lladd, a 12 arall wedi’u hanafu.

Aeth y ddau gerbyd ar dân yn syth wedi iddyn nhw fod mewn gwrthdrawiad ar briffordd rhif 7 y wlad, tua 620 milltir i’r gorllewin o’r brifddinas, Buenos Aires.

Mae ffilm fideo gan fodurwr yn dangos y lori’n teithio i’r cyfeiriad anghywir ar y ffordd, ychydig cyn i’r ddamwain ddigwydd. Platiau rhif o Frasil sydd ar y lori, ac roedd hi’n cario llwyth o garlleg.

Yn ôl yr awdurdodau, fe gafodd 12 o’r meirw eu llosgi y tu mewn i’r bws, tra bod y 6 arall wedi marw ar ôl cael eu cludo i’r ysbyty.