Mae dyn wedi’i ladd gan siarc tra’r oedd yn pysgota â gwaywffon oddi ar arfordir deheuol Awstralia.

Mae heddlu talaith De Awstralia yn dweud fod y dyn 28 oed yn rhan o grwp oedd yn pysgota oddi ar Benrhyn Yorke, i’r gorllewin o brifddinas y dalaith, Adelaide. Mae tystion yn dweud iddyn nhw weld y siarc yn ymosod arno.

Mae’r heddlu a chriwiau’r gwasanaethau brys yn chwilio’r ardal o gwmpas Goldsmith Beach gyda chychod a hofrenyddion, ond dydyn nhw ddim wedi dod o hyd i gorff y pysgotwr hyd yma.