William, Dug Caergrawnt
Mae Dug Caergrawnt a’i frawd, y Tywysog Harry, wedi mynd i hela i Sbaen… ddiwrnod yn unig cyn y bydd William a’i dad, Tywysog Cymru, yn galw ar y byd i fynd i’r afael â chreulondeb tuag at anifeiliaid gwyllt.
Yn ôl papur newydd The Sun heddiw, mae disgwyl i’r brodyr, William a Harry, dreulio’r dydd ar ystad breifat yn Sbaen yn hela baedd gwyllt a cheirw.
Ond, mewn neges fideo y mae disgwyl iddi gael ei darlledu ar draws y byd fory, mae William a’i dad, Charles, yn galw ar bobol “i weithredu nawr” i arbed anifeiliaid prin fel y rhinoseros, yr eliffant a’r teigr.
“Mae Dug Caergrawnt, ers blynyddoedd, wedi bod yn siarad allan dros anifeiliaid prin,” meddai llefarydd brenhinol. “Mae wedi ymgyrchu’n ddiflino er mwyn dod â hela anghyfreithlon i ben. Mae ei record yn siarad drosti’i hun.”