Mae gyrrwr wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar yn Sir Gaerloyw neithiwr.

Roedd car y gwr 59 oed wedi torri i lawr ar ffordd yr A417 yn Crickley Hill, ger Birdlip, ac roedd yn ceisio symud y car oddi ar y briffordd pan gafodd ei daro gan gerbyd arall.

Roedd y dyn, o ardal Cheltenham, wedi bod yn teithio yn ei gar Toyota du gyda’i fab.

Mae’r heddlu yn apelio am dystion a allai fod wedi gweld y ddamwain ar y ffordd lle mae mwy na 340 o ddamweiniau wedi bod yn ystod y 15 mlynedd diwetha’.