Mae swyddogion Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i ffermwyr fod ar eu gwyliadwraeth, yn dilyn lladrad o fferm yn ardal Aberaeron yr wythnos hon.
Fe gafodd beic cwad Polarris Sportsman 550 lliw gwyrdd ei ddwyn rhywbryd rhwng 2.30yp ddydd Iau, Chwefror 6 a 7.55yb ddydd Gwener, Chwefror 7. Roedd y cerbyd wedi’i adael yn sownd wrth gadwyn yn un o adeiladau’r fferm.
Yn ogystal â galw ar i unrhyw dystion ddod yn eu blaenau gydag unrhyw wybodaeth a allai fod o help wrth geisio datrys yr achos, mae Heddlu Dyfed Powys yn cynghori ffermwyr i wneud y canlynol er mwyn amddiffyn eu heiddo:
. Edrych ar ôl allweddi yn ofalus – a pheidio labelu’r bwndel gydag enw neu rif cofrestru’r cerbyd. Mae hynny’n gwneud bywyd y lleidr yn haws;
. Defnyddio byllt, cadwyni ac angorau i ddal peiriannau a cherbydau yn eu lle;
. Gwneud yn siwr fod y math o gloeon yn addas ac yn anodd i’w hagor;
. Rhoi cloeon a gorchuddion ar bob tow-bar;
. Cadw cofnod manwl (mewn man diogel neu ar gyfrifiadur) o bob cerbyd neu beiriant, ynghyd ag unrhyw rifau;
. Tynnu lluniau peiriannu (o bob cyfeiriad), yn enwedig ambell dolc sy’n eu gwneud yn hawdd i’w hadnabod;
. Ystyried marcio’r eiddo trwy weldio, crafu neu stampio eu cod post arnyn nhw;
. Gosod goleuadau diogelwch ar y buarth ac mewn adeiladau;
. Buddsoddi mewn system larwm.