Ffliw (Llun: Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Mae swyddogion iechyd wedi rhybuddio’r wythnos hon fod ffliw ar led yng Nghymru – ond fe all pawb helpu ei atal rhag lledu ymhellach.

Dangosodd ffigyrau diweddar fod firws ffliw yn cylchredeg ar draws rhannau o Ewrop, gan gynnwys Cymru. A dyna pam mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pawb, yn enwedig felly’r bobl mewn grwpiau ‘risg’ i gymryd y rhagofalon cywir a bod yn wyliadwrus gyda’u hylendid trwy ddilyn tri cham syml:

1. Ei ddal.

2. Ei daflu.

3. Ei ddifa.

Cyngor

Mae Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Heintiau y Gellir eu Hatal trwy Frechlyn, yn rhybuddio: “Cynghorir unrhyw un a chanddyn nhw symptomau tebyg i ffliw i ddilyn y cyngor ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa’.

“Cofiwch ddefnyddio hances bapur wrth disian, taflwch hen hancesi papur sy’n gartref i germau a lladdwch germau trwy olchi eich dwylo’n rheolaidd gyda sebon a dŵr, neu eu glanhau gyda hylif diheintio.

“Ar aelwyd lle mae rhywun yn dioddef o’r ffliw, dylech lanhau arwynebau caled fel dolenni drysau ac wynebau gweithio yn rheolaidd gan ddefnyddio cynnyrch glanhau cartref arferol,” meddai wedyn. “Os oes gennych blant, dylech eu helpu i ddilyn y cyngor hwn.”

Difrifol

Mae’n bwysig hefyd os ydych yn sâl/dost gyda salwch tebyg i ffliw eich bod yn cadw draw o bobl fregus, fel pobl a chanddynt gyflyrau iechyd hirdymor, yr henoed a phlant ifanc iawn, er mwyn osgoi lledu’r haint.

Aiff Dr Roberts yn ei flaen: “Gan na welsom nifer fawr iawn o achosion o ffliw ers rhai blynyddoedd, mae pobl yn gallu llaesu dwylo ac anghofio pa mor ddifrifol all ffliw fod.

“Unwaith y mae ffliw ar led, ac eithrio brechiad, hylendid a chadw draw o bobol eraill tra’ch bod yn dost yw’r unig bethau all helpu ei atal rhag lledu.”

Mae’r ffliw ar ei waethaf yn aml ym mis Ionawr neu Chwefror a gall barhau i ddechrau’r gwanwyn, ac mae’n bwysig parhau’n effro wrth ymarfer y tair rheol bwysig hon yn gyson er mwyn osgoi afiechyd eleni. Er mwyn cael mwy o wybodaeth ewch i’r wefan hon