Mae athrawes ysgol gynradd o Gaerffili wedi ei thynnu oddi ar gofrestr athrawon am beth bynnag ddwy flynedd, am gamymddwyn.
Roedd Claire Jarrett, 46, wedi codi plentyn pum mlwydd oed gerfydd ei fraich a’i lusgo ar hyd y llawr pan gollodd ei thymer yn ystod ymarferion cyngerdd carolau yn Ysgol Gynradd Aberbargoed.
Mewn gwrandawiad yng Nghaerdydd, roedd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru wedi clywed tystiolaeth yn honni fod yr un digwyddiad hwn yn rhan o ymgyrch o fwlian yn erbyn y bachgen pumlwydd, a bod yr ymgyrch honno wedi para rhai misoedd.
Ond roedd Claire Jarrett wedi gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei herbyn. Roedd athrawon eraill hefyd wedi tystiolaethu i ddweud fod gan y bachgen “broblemau ymddygiad”.