Borovets
Mae ymchwiliad llofruddiaeth a bod ym meddiant cyffuriau ar y gweill ym mhrifddinas Bwlgaria, yn dilyn marwolaeth merch o Gymru.
Fe syrthiodd Nina Holmes o Gorseinon yn farw yn Borovets nos Sul ddiwetha’, tra ar wyliau sgïo yn y wlad. Roedd hi a grwp o ffrindiau wedi bod am noson allan.
Mae’r Swyddfa Erlyniadau ym mhrifddinas Bwlgaria, Sofia, wedi cadarnhau heddiw fod ymchwiliad dechreuol ar y gweill. Mae’r Swyddfa Dramor hefyd yn dweud ei bod yn “cefnogi ac yn darparu pob cymorth” i’r teulu yn ardal Abertawe.