Mae dyn 43 wedi cael ei holi gan yr heddlu, yn dilyn cyrch gan Heddlu Gogledd Cymru a heddlu arfog ym mhentre’ Clynnog Fawr, rhwng Caernarfon a Phwllheli.
Roedd yr heddlu’n chwilio am arfau anghyfreithlon.
Yn ôl y Prif Arolygydd Simon Barrasford, sy’n arwain yr ymgyrch: “Fe gafodd heddlu eu hanfon i Glynnog Fawr gyda’r bwriad o ddod o hyd i’r arfau a dod â nhw oddi yno, a hynny er mwyn diogelu’r cyhoedd a’r swyddogion.
“Rydan ni’n ddiolchgar i bobol leol am eu cydweithrediad ac am ddeall pam oedd yn rhaid i ni wneud hyn. Gobeithio y bydd popeth yn dychwelyd i normal mor fuan â phosib.”