Mae’r trafodaethau i geisio arbed cannoedd o swyddi mewn tair canolfan hamdden yn Sir Ddinbych, wedi methu.

Mewn datganiad, mae Clwyd Leisure wedi cyhoeddi y bydd Heulfan y Rhyl, canolfan Nova ym Mhrestatyn, a’r Ganolfan Fowlio Dan-do, yn cau yn syth bin.

Yn ôl Clwyd Leisure, mae’r trafodaethau oedd yn cael eu cynnal gyda Chyngor Sir Ddinbych ynglyn â throsglwyddo staff i swyddi eraill, wedi mynd i’r gwellt – does yna ddim un ffordd, medden nhw, y gellir arbed y swyddi.

“Gyda gofid a thristwch mawr y mae Cyfarwyddwyr wedi penderfynu cau y canolfannau,” meddai’r datganiad. “Maen nhw’n diolch yn gynnes i’w holl staff ymroddedig a’n cwsmeriaid ffyddlon sydd wedi cefnogi’r cwmni trwy’r misoedd diwetha’ anodd hyn.”