Mae heddlu arfog yn archwilio tŷ yn un o bentrefi Gwynedd.

Mae hofrennydd wedi bod yn cylchu uwchben y pentref ar gwr priffordd yr A499 rhwng Caernarfon a Phwllheli y prynhawn yma, ac mae pobol leol wedi cadarnhau fod cerbyd heddlu arfog wedi bod yno hefyd.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae yna dŷ yn cael ei archwilio.

“Mae’r digwyddiad dan reolaeth,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu, “ac mae plismyn lleol yn delio â’r sefyllfa gyda chefnogaeth heddlu arbenigol.”