Bill Roache (PA)
Mae actor Coronation Street, Willaim Roach, wedi dweud nad oedd neb yn ennill ar ôl iddo gael ei glirio o droseddau rhyw ddoe.

Ac mae cwestiynau’n cael eu gofyn heddiw ynglŷn â phenderfyniad yr heddlu a gwasanaeth erlyn y goron i ddwyn yr achos yn ei erbyn.

Cafwyd William Roache, 81 oed,  yn ddieuog o ddau gyhuddiad o dreisio a phedwar cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar bump o ferched oedd o dan 16 oed, a hynny rhwng 1965 a 1972.

Roedd yr actor, sy’n actio rhan Ken Barlow yn y gyfres sebon ar ITV, wedi gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

‘Gobaith realistig’

Dywedodd Heddlu Swydd Gaerhirfryn a ymchwiliodd i’r honiadau yn ei erbyn eu bod am “barhau’n ymroddedig”  i ymchwiliadau o’r fath gan ychwanegu eu bod yn parchu penderfyniad y rheithgor.

“Roedd yr holl dystiolaeth yn destun craffu gofalus cyn penderfynu dwyn achos yn ei erbyn,” medden nhw mewn datganiad. “Roedd hynny yn y gred bod digon o dystiolaeth i gyfiawnhau gobaith realistig o’i gael yn euog.”

Ond dywedodd Louise Blackwell QC, a oedd yn amddiffyn William Roache, fod yr holl gyhuddiadau yn ei erbyn yn “nonsens” a bod yr achos wedi cael ei bardduo gan ysbryd Jimmy Savile, y cyflwynydd teledu a oedd wedi ymosod yn rhywiol ar gannoedd o ferched ifanc.

Tu hwnt i bob amheuaeth resymol

Dywedodd Nazir Afzal, prif erlynydd y goron ar gyfer gogledd orllewin Lloegr: “Pan mae honiadau difrifol yn cael eu gwneud ac mae’r dystiolaeth yn pasio’r prawf erlyniad, mae hi’n iawn fod rheithgor yn ystyried y dystiolaeth.

“Dyna’r ffordd y mae ein system gyfreithiol yn gweithio, mae’r erlyniad yn penderfynu bod digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o ddedfryd euog ond y rheithgor  sy’n gorfod penderfynu bod y dystiolaeth yn profi hynny tu hwnt i bob amheuaeth resymol.”

Ac mae ffrindiau a chydweithwyr William Roache wedi mynegi eu rhyddhad a chefnogaeth ar ôl iddo’i gael yn ddieuog gyda nifer yn edrych ymlaen ato’n dychwelyd i Coronation Street.

Dywedodd llefarydd ar ran ITV eu bod nhw’n edrych ymlaen at siarad gyda William Roache yn fuan i drafod hynny.