Fflur Dafydd
Fe fydd nofel ‘Y Llyfrgell’ gan yr awdur Fflur Dafydd yn cael ei throsi ar gyfer y sgrin fawr fel rhan o brosiect Asiantaeth Ffilm Cymru, ‘Sinematig’.
Nod y prosiect yw rhoi sylw i wneuthurwyr ffilm o Gymru, ac fe fydd y ffilmiau’n cael eu cynhyrchu yn ystod y 18 mis nesaf.
Euros Lyn, cyfarwyddwr cyfres boblogaidd y BBC ‘Broadchurch’, fydd yn cyfarwyddo’r ffilm, sy’n cael ei sgriptio gan yr awdures ei hun.
Mae’r ffilm yn trafod cynllwyn dwy efail i osod trap yn y Llyfrgell Genedlaethol er mwyn dal llofrudd eu mam.
‘Amrywiol’
Y ddwy ffilm arall fydd yn ymddangos fel rhan o’r prosiect yw ‘Just Jim’ gan seren ‘Submarine’, Craig Roberts, sydd yn cael ei chynhyrchu gan Pip Broughton; a ‘The Lighthouse’ gan Chris Crow a Michael Jibson, sydd wedi’i chyfarwyddo gan Chris Crow (‘Panic Button’).
Dywedodd Steve Jenkins o BBC Films, “Mae’r tri phrosiect yn gyffrous o amrywiol o ran genre ac uchelgais, o ffilm gomedi dywyll i bobl ifanc i ffilm arswyd gyfnod, ond mae pob un yn arbennig o berthnasol i Gymru o ran lleoliad y straeon, ac wrth gwrs, o ran talent. Dyma gyfuniad rhagorol.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr Asiantaeth Ffilm Cymru, Pauline Burt: “Mae talent wirioneddol yn perthyn i bob un o’r prosiectau, felly mae’n gyffrous medru rhoi cynfas ehangach iddynt gael datblygu eu harddull a’u ffordd o weithio.”
‘Syniadau unigryw’
Dywedodd Comisiynydd Drama S4C, Gwawr Martha Lloyd: “Mae cyhoeddi’r prosiectau cyffrous yma’n dangos manteision diriaethol Sinematig yn gwbl glir – dyma unigolion gwirioneddol dalentog sy’n cael cyfle i ddatblygu eu syniadau unigryw. Mae Y Llyfrgell, er enghraifft, yn dangos cymaint o syniadau creadigol gwych a gwreiddiol sy’n bodoli, a ‘rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn i weld sut fydd y prosiect yn datblygu a sut fydd o’n edrych ar y sgrin fawr. ‘Rwy’n siŵr y bydd y diwydiant ffilm yng Nghymru yn elwa’n fawr iawn yn sgil cynllun mor gyffrous a chynhyrchiol.”
Mae ‘Sinematig’ yn brosiect cydweithredol rhwng Cronfa Ffilm y BFI, BBC Films, S4C, Soda Pictures a Creative Skillset, ac mae gan y prosiect gyllideb o oddeutu £300,000.
Dywedodd Fflur Dafydd: “Dwi wrth fy modd bod ‘Y Llyfrgell’ yn mynd i gyrraedd y sgrin fawr. Dwi wedi meddwl ers rai blynyddoedd mai Euros Lyn fyddai’r cyfarwyddwr perffaith ar gyfer prosiect o’r fath, a dwi’n hapus dros ben ei fod wedi cytuno i gyfarwyddo fy ffilm gyntaf. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn adeilad eiconig dros ben, a fydd yn rhoi cyfle unigryw i ni gyflwyno trysorau Cymru i weddill y byd.”