Mae gweinidogion yn Lloegr wedi “gwneud llanast” o gynlluniau i gyflwyno tâl 5 ceiniog am fagiau plastig, meddai ASau.
Yn dilyn esiampl Cymru, mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu gwneud i bobol dalu 5c am fagiau plastig o’r flwyddyn nesaf ymlaen, mewn ymgais i leihau faint o fagiau sy’n cael eu defnyddio.
Ond mae gweinidogion wedi gwneud yr ymgyrch yn “rhy gymhleth” drwy beidio cynnwys bagiau papur a siopau bach yn y cynllun – sydd am ddrysu cwsmeriaid, meddai’r Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol.
Dywed adroddiad gan y pwyllgor y dylid codi tal am bob math o fag.
“Mae gweinidogion wedi llwyddo i wneud llanast llwyr o’r cynllun, sy’n gwbl ddiangen,” meddai cadeirydd y pwyllgor, Joan Walley.
“Mae bagiau plastig yn creu niwed i’r amgylchedd ac i fywyd gwyllt, ac mae’r Llywodraeth yn iawn i geisio atal hyn”.
Cafodd 8 miliwn o fagiau plastig eu defnyddio ledled Prydain yn 2012, ond mae rhoi tal am fagiau plastig yng Nghymru wedi lleihau nifer y bagiau o 75%.
Mae Gogledd Iwerddon hefyd wedi dechrau codi tal am fagiau ac fe fydd yr Alban yn ymuno a’r cynllun y flwyddyn nesaf.