Yr Uchel Lys yn Llundain
Mae cannoedd o bobl o Brydain oedd wedi cael eu taro’n wael yn ystod gwyliau mewn canolfan yn Nhwrci bron i bum mlynedd yn ôl wedi ennill iawndal, clywodd yr Uchel Lys heddiw.
Dywedodd cyfreithwyr sy’n cynrychioli bron i 600 o bobl – gan gynnwys mwy na 100 o blant – wrth yr Uchel Lys eu bod nhw wedi dod i gytundeb gwerth £1.7 miliwn gyda chwmni gwyliau First Choice Holidays and Flights.
Clywodd gwrandawiad yn Llundain bod y teithwyr wedi aros yng nghanolfan Holiday Village yn Sarigerme yn Nhwrci yn ystod yr haf 2009.
Dywed cyfreithwyr eu bod wedi dod i gytundeb heb i’r cwmni gyfaddef unrhyw gyfrifoldeb. O dan gyfraith Ewropeaidd fe allai cwmnïau gwyliau fod yn atebol am broblemau mewn canolfannau gwyliau, hyd yn oed os nad ydyn nhw ar fai.
Dywedodd cwmni Irwin Mitchell, oedd yn cynrychioli’r teithwyr, bod eu gwyliau wedi cael eu “difetha” ar ôl achosion o salwch stumog yn y ganolfan.
Fe fydd y cytundeb heddiw yn golygu bod 160 o blant a 435 o oedolion yn derbyn iawndal o hyd at £25,000 yr un.