William Roache
Mae’r rheithgor yn achos actor Coronation Street, William Roache wedi dechrau ystyried eu dyfarniad.

Mae Roache, 81 oed, sy’n chwarae Ken Barlow yn y gyfres sebon, wedi ei gyhuddo o ddau achos o dreisio a phedwar cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar bump o ferched oedd o dan 16 oed. Fe ddigwyddodd yr ymosodiadau honedig rhwng 1965 a 1972 un ai yn Stiwdios Granada ym Manceinion, yn ei gar, neu mewn eiddo oedd yn berchen iddo.

Mae Roache, o Wilmslow yn Sir Gaer yn gwadu’r holl gyhuddiadau ac yn dweud nad oedd yn adnabod y merched sydd wedi ei gyhuddo ac nad oedd erioed wedi cael diddordeb rhywiol mewn merched dan oed.

Mae’r erlyniad yn honni bod yr actor wedi “glynu at ei sgript” wrth ddweud celwydd a’i fod wedi defnyddio ei enwogrwydd i gymryd mantais o ferched ifainc.

Ond mae Louise Blackwell QC, ar ran yr amddiffyniad yn dweud bod yr achos yn erbyn Roache yn “nonsens” gan ddweud bod “anghysonderau” yn y dystiolaeth.