Theresa May (PA)
Fe allai’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, gael yr hawl i ddiddymu pasbort pobol dramor sy’n cael eu hamau o fod yn derfysgwyr, hyd yn oed petai hynny’n golygu eu gadael heb wlad.

Mae newid yn cael ei gynnig i’r Mesur Mewnfudo yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw yn galw am fesurau mwy llym i ddileu dinasyddiaeth pobol o dramor sy’n cael eu cysylltu gyda therfysgwyr, a hynny am “achosi niwed i les y Deyrnas Unedig”.

Mae gan yr Ysgrifennydd Cartref eisoes yr hawl i ddiddymu pasbort pobol sydd â dinasyddiaeth ddwbl a phasport mewn gwlad arall hefyd.

Daw’r newid wrth i Lywodraeth Prydain wynebu gwrthwynebiad o’r meinciau cefn dros hawliau troseddwyr o dramor a thros nifer y mewnfudwyr sy’n cael dod i wledydd Prydain o Romania a Bwlgaria.

Y dadlau

“Mae dinasyddiaeth yn fraint, nid yn hawl,” meddai Mark Harper, Gweinidog Dinasyddiaeth y Llywodraeth.

“Mae’r rhai sy’n bygwth diogelwch Prydain yn ein rhoi ni gyd mewn peryg. Mae’r Llywodraeth am gymryd y camau priodol i warchod y cyhoedd.”

Ond yn ôl y Blaid Lafur, ymgais yw’r newid i leddfu beirniadaeth gan aelodau asgell dde o’r Blaid Geidwadol.

Mae ymgyrchwyr hawliau sifil yn dweud fod y newid yn “ddatblygiad ofnadwy” sy’n rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol “rwygo pasbort pobol heb unrhyw broses o flaen llaw.”

Dywed y Swyddfa Gartref mai dim ond mewn achosion prin y byddai’r grymoedd yn cael eu defnyddio, a hynny’n unol ag ymrwymiadau rhyngwladol y Deyrnas Unedig.